SL(6)492 - Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2024

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Adeiladu 2010 (“Rheoliadau 2010”) yn cynnwys gofynion i osod systemau llethu tân awtomatig mewn cartrefi gofal newydd neu gartrefi gofal wedi’u haddasu i oedolion. Mae Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”) yn cynnwys gofynion tebyg ar gyfer gosod systemau llethu tân awtomatig mewn cartrefi gofal i blant.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2010 i gynnwys, gyda diwygiadau, y gofynion ar gyfer gosod systemau tân awtomatig mewn cartrefi gofal i blant a gynhwysir ym Mesur 2011.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae’r Nodyn Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn datgan mai eu heffaith fydd “symud” y darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol gosod systemau llethu tân awtomatig mewn cartrefi gofal i blant a gynhwysir ym Mesur 2011 i Reoliadau 2010.

Nid yw’r darpariaethau ym Mesur 2011 sy’n cynnwys y rhwymedigaethau hynny wedi eu diddymu gan y Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, mae adran 1(3)(b) o Fesur 2011 yn pennu nad yw ei ddarpariaethau yn gymwys i waith adeiladu os yw rheoliadau adeiladu sy’n gosod gofynion o ran darparu systemau llethu tân awtomatig yn gymwys i’r gwaith hwnnw (neu y byddent yn gymwys ond am gyfarwyddyd o dan adran 8 o Ddeddf Adeiladu 1984 sy’n hepgor gofynion o’r fath).

Mae rheoliad 37A(5) o Reoliadau 2010 (fel y’i diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn) yn darparu nad yw’r gofyniad i osod system llethu tân awtomatig mewn cartref gofal i blant yn gymwys i adeiladau dros dro sydd ag amser defnyddio a gynlluniwyd o ddwy flynedd neu lai. Nid yw’n ymddangos bod esemptiad tebyg yn y darpariaethau cyfatebol ym Mesur 2011 sy’n ei gwneud yn ofynnol gosod system o’r fath.

Felly, gofynnir i’r Llywodraeth egluro a yw’n bwriadu cadw gofyniad i osod system llethu tân awtomatig mewn cartref gofal i blant sydd wedi’i gynnwys mewn adeiladau dros dro ac sydd gydag amser defnyddio a gynlluniwyd o ddwy flynedd neu lai yn unol ag adran 1 o Fesur 2011.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae’r Nodyn Esboniadol i’r Rheoliadau yn cadarnhau bod asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i baratoi o’r costau a’r buddion tebygol o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Rheoliadau yn nodi (ym mharagraff 6.1) “ni wnaed RIA”.

Felly, gofynnir i'r Llywodraeth egluro a oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i wneud mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

17 Mehefin 2024